top of page
27.png
Ffrindiau This is Wrecsam
Ffrind i This is Wrecsam

Wrexham BID

Mae Wrexham BID (Ardal Gwella Busnes) yn dod â busnesau canol y ddinas at ei gilydd i adeiladu Wrecsam fwy, gwell a phrysurach. Mae dros 500 o fusnesau yn ardal y BID yn talu ardoll flynyddol o 2%, sy'n mynd yn syth yn ôl i ganol y ddinas i wella'r profiad i ymwelwyr a helpu busnesau lleol i ffynnu.

Cwmni dielw yw Wrexham BID, dan arweiniad bwrdd o berchnogion busnesau lleol a'u cynrychiolwyr, sy'n goruchwylio sut mae'r arian yn cael ei wario. Mae ei gynllun busnes yn cynnwys tirlunio a gwyrddu, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, strydoedd glanach a mwy diogel, gwell cyfleusterau lleol a digwyddiadau o safon uchel drwy gydol y flwyddyn, o wyliau cerddoriaeth i farchnadoedd bwyd.

Mae'r gwaith diweddar yn cynnwys rhaglen glanhau blaenau siopau ar Charles Street, Regent Street, Hope Street a Bank Street, ariannu rhwydwaith radio canol y ddinas, cyflwyno platfform adrodd am droseddau ShopSafe yn Eagles Meadow, a Pharti Haf ar Sgwâr y Frenhines gyda Heart North Wales.

Mae Wrexham BID yn un o Ffrindiau balch This is Wrecsam.

Wrexham BID
bottom of page