top of page

Crwydro parciau gwledig Wrecsam

Feb 8, 2021
3 min read

Updated: 4 days ago

Am y wybodaeth ddiweddaraf, gweler ein canllaw pethau i’w gwneud gyda phlant.

Dyma ychydig o wybodaeth am yr hyn sydd gan barciau gwledig Wrecsam i'w gynnig.


Dyfroedd Alun


Dyma'r parc gwledig mwyaf yn ardal Wrecsam. Mae'n cymryd ei enw o Afon Alun, sy'n rhedeg drwy'r parc gyda llwybr troed yn rhedeg ochr yn ochr â'r afon.

Mae llawer o lwybrau ar draws y parc. Gallwch gerdded drwy'r coetiroedd helaeth gan ddilyn llwybrau'r afon, neu fwynhau'r glaswelltir agored. Wrth gerdded drwy'r parc, cadwch lygad am y bywyd gwyllt sy'n byw yno. Mae glas y dorlan, bwncathod, cudyllod coch, llwynogod, gwiberod a nadroedd y gwair, madfallod dŵr cyffredin ac amrywiaeth o ystlumod i'w gweld ar eich taith.


Coetir yn yr hydref yn un o barciau gwledig Wrecsam


Mae rhai o'r teithiau cerdded yn y parc wedi'u mapio yn ôl y calorïau rydych chi'n eu llosgi, ac mae llwybr beicio pwrpasol sy'n ddelfrydol ar gyfer prynhawn o ymarfer corff a hwyl i'r teulu cyfan. Gall y plant iau fwynhau'r ardal chwarae yn y parc, ac mae caffi ar gyfer byrbryd haeddiannol ar ôl diwrnod prysur yn mwynhau popeth sydd gan Ddyfroedd Alun i'w gynnig.


  • Mae'r parc ar agor bob dydd

  • Mae Canolfan Ymwelwyr wrth ymyl y caffi

  • Mae toiledau gyda mynediad i bobl anabl

  • Mae maes parcio

Gallwch gyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr o fynedfa Gwersyllt i'r parc, tair milltir i'r gogledd o Wrecsam oddi ar yr A541, Ffordd yr Wyddgrug. Mae mynedfa Llai oddi ar y B5425, y ffordd o Lai i Wrecsam.


Parc Gwledig Tŷ Mawr


Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr ar lannau Afon Dyfrdwy mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae'r parc yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae fferm fach yn swatio o dan fwâu Traphont Cefn, lle gall plant ac oedolion ddod i gwrdd â'r asynnod, y moch, y defaid a'r geifr. Mae ieir a hwyaid sydd bob amser yn hapus i gael eu bwydo gan ein hymwelwyr ifanc, a gallwch hefyd weld dau lama yn pori'n hapus yn y dolydd blodau gwyllt hardd.


Dyn ar fainc yn edrych dros draphont mewn parc gwledig

Gall ymwelwyr fwynhau taith gylchol y parc, sydd wedi'i mapio yn ôl y calorïau er mwyn i chi weld faint y byddwch chi'n ei losgi ar y daith.


Mae teithiau cerdded hirach hefyd ar hyd glan yr afon gyda golygfeydd hardd sy'n arwain at Draphont Ddŵr ysblennydd Pontcysyllte, ar hyd Llwybr Treftadaeth Cefn, neu gallwch gerdded rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.


Mae gan Dŷ Mawr ardal bicnic gyda cherfluniau pren trawiadol. Gall plant fwynhau'r llwybr ffitrwydd, y trac BMX a'r maes chwarae.


  • Mae Canolfan Ymwelwyr, sydd fel arfer ar agor yn ystod y tymor ymwelwyr ac ar benwythnosau yn y gaeaf. Gwiriwch yr oriau agor cyn mynd.

  • Mae lluniaeth ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr.

  • Mae toiledau, gan gynnwys cyfleusterau i bobl anabl

  • Mae maes parcio

I ddod o hyd i Barc Gwledig Tŷ Mawr, dilynwch yr arwyddion o'r A5 rhwng Cylchfan Halton a throad y B5605 i Gefn Bychan.


Parc Gwledig Dyffryn Moss


Yn swatio rhwng pentrefi Gwersyllt a Brynteg, dim ond tair milltir i'r gogledd o Wrecsam, mae Dyffryn Moss yn cynnig parcdir a golygfeydd hardd. Mae coetir ar ddwy ochr y dyffryn siâp V, gyda dau lyn bach ac ardaloedd o laswelltir. Mae gan y dyffryn orffennol diwydiannol cyfoethog fel ardal cloddio glo, ac mae rhai o'r hen reilffyrdd i'w gweld o hyd.


Coed yr hydref yn cael eu hadlewyrchu mewn llyn yn un o barciau gwledig Wrecsam

Cafodd Dyffryn Moss ei adfer yn 1973 a'i drawsnewid yn ardal sydd bellach yn cynnig llwybrau troed tawel drwy'r coetir ger y llynnoedd a thrwy'r coedwigoedd derw a ffawydd. Mae rhai o'r llwybrau'n dilyn yr hen dramffyrdd a ddefnyddiwyd yn y pyllau glo. Mae'r hen ddiwydiant wedi hen fynd, ac yn ei le mae ardaloedd bywyd gwyllt gwych wedi'u cuddio yn y coetir, ac mae'r llynnoedd yn denu hwyaid, ieir dŵr, glas y dorlan, cwtieir ac elyrch.


  • Mae teithiau cerdded hyfryd drwy'r coetir ac ar lan y llyn, a llwybr beicio hefyd.

  • Mae ardal chwarae fach wedi'i ffensio gerllaw.

  • Does dim toiledau.

  • Gwiriwch y trefniadau parcio cyn mynd.


I ymweld â Dyffryn Moss, gadewch yr A483 wrth droad yr Wyddgrug a dilynwch y ffordd i Summerhill. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer cwrs golff Dyffryn Moss, yna'r trydydd troad i'r chwith i Poolmouth Road.


Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Wrecsam. Cofiwch wirio'r oriau agor a'r trefniadau parcio diweddaraf cyn i chi ymweld.

bottom of page