top of page

Hwyl Fawr a Diolch gan Jones the Boats

Nov 15, 2019
2 min read

Mae pob un ohonom yn y diwydiant twristiaeth lleol yn estyn diolch arbennig i Peter Jones (Jones the Boats), a ymddeolodd yn gynharach y mis hwn ar ôl mwy nag 20 mlynedd yn cludo ymwelwyr ar Gamlas Llangollen ac ar hyd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

I ddiolch i Peter am ei gyfraniad i'r diwydiant twristiaeth lleol, cafodd wobr gydnabyddiaeth arbennig yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales 2019 yn Venue Cymru yr wythnos hon.

A man in a bow tie holding an award at a ceremony

Uchod: Peter Jones gyda'i wobr yn Venue Cymru, 14 Tachwedd 2019.

Gan wireddu ei uchelgais, ers pan oedd yn fachgen lleol tair oed, i weithio ar y gamlas, dros y 25 mlynedd diwethaf mae Peter Jones wedi datblygu Jones the Boats yn fusnes cychod camlas llwyddiannus sy'n croesawu miloedd o ymwelwyr i Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte bob blwyddyn.

Two crew members on a narrowboat crossing the Pontcysyllte Aqueduct

Uchod: Peter Jones a'i fab Howard o Jones the Boats ar Draphont Ddŵr Pontcysyllte (llun (c) Jamie Ricketts, Shropshire Star).

Mae Peter wedi cynnal teithiau dros Draphont Ddŵr Pontcysyllte ac ar hyd Camlas Llangollen bob dydd (heblaw pan fydd y cychod yn cael côt o baent dros y gaeaf!), gan roi rhyfeddod a phleser i'r miloedd o ymwelwyr sy'n dod i weld y safle godidog ger Wrecsam.

Mae hyn hefyd wedi cynnwys sawl ymddangosiad ar y teledu a'r radio, gan gynnwys hysbysebion Croeso Cymru a rhaglenni fel:

  • ITV Border 'Thomas Telford' gyda'r hanesydd Ian Marchant

  • BBC2 (Cymru) 'Border Country' gydag Iolo Williams a Tess Dunlop

  • BBC1 'Country File' gyda John Craven a Michaela Strachan

  • Flog It!

Wrth ddiolch i Peter ar ei ymddeoliad, ychwanegodd Joe Bickerton, Rheolwr Cyrchfan Cyngor Wrecsam: "Roedden ni'n drist o glywed na fyddai Peter yn gweithredu mwyach, ond ar ôl ymddeol fel athro a mynd ymlaen i roi mwy nag 20 mlynedd o wasanaeth ar y gamlas, gan groesawu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o'r byd, mae'n haeddu cymryd bywyd ychydig yn haws (gobeithio!). Roedd Peter yn wyneb cyfarwydd yng Nglanfa Trefor bob dydd, a helpodd ni a Croeso Cymru i drefnu ymweliadau grŵp sawl gwaith. Diolch bach gennym ni a Go North Wales oedd y wobr neithiwr am gyfraniad eithriadol i'n diwydiant twristiaeth yma yn y Gogledd. Diolch, Peter!"

  • DSC_0063
  • jones boats
  • Peter Jones

bottom of page