Explore With Ed: Rhyfeddodau Wrecsam!
Updated: 2 hours ago
Am y wybodaeth ddiweddaraf, gweler ein canllaw pethau i’w gwneud yn Wrecsam.
'Y pethau gorau i'w gwneud yn Wrecsam, Cymru': Mae'r post hwn (defnyddiol iawn, gobeithio!) yn bartneriaeth â thâl ac yn gydweithrediad gyda This Is Wrexham, ond fy marn i yw'r cyfan.
Os yw antur yng nghefn gwlad Cymru yn apelio, gadewch i mi gyflwyno'r daith ddeuddydd 'Wrexham Wonder'. Gydag eiddo mawreddog y National Trust a llwybr cerdded hardd, mae'n hanfodol pacio eich camera ar gyfer lluniau Instagram hyfryd.



Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae Sir Wrecsam yn gartref i fannau Baner Werdd fel Alyn Waters Country Park, ac mae ar y ffin â Lloegr, yn agos at Gaer, Lerpwl a Manceinion.
Mae'r daith dros nos neu benwythnos hon yn cynnwys llawer o olygfeydd ar draws Wrecsam, felly mae'n ddelfrydol os ydych chi (fel fi) yn caru hanes ac eisiau tynnu'r esgidiau cerdded allan.
Diwrnod un o daith Wrexham Wonder: Cyflwyniad i Wrecsam yn Wrexham Museum.


Mae taith Wrexham Wonder yn dechrau yn Wrexham Museum (mynediad am ddim), sy'n eich cyflwyno i'r hanes lleol a lleoedd o ddiddordeb fel Castell Holt a Minera Lead Mines. Un o'r uchafbwyntiau yw Dyn Brymbo, gweddillion dyn tua 35 oed o ddechrau'r Oes Efydd, tua 1600 CC!
Mae technoleg fodern wedi ein galluogi i weld sut olwg oedd ar Ddyn Brymbo efallai, wrth wasgu botwm yn yr arddangosfa. Mae caffi yn yr amgueddfa am ginio, neu efallai y byddai'n well gennych chi bacio picnic ar gyfer y stop nesaf ar y daith.


Taith gerdded Llwybr Clywedog | Pethau i'w gwneud yn Wrecsam
Mae Llwybr Clywedog yn mynd â chi ar daith yn ôl i wreiddiau diwydiannol Wrecsam. Gan ddechrau yn
Amgueddfa Gwaith Haearn Bersham, byddwch yn mynd drwy Goed Nant Mill ar hyd yr afon i'r Ganolfan Ymwelwyr (hen Felin Ŷd) ac ymlaen i Minera Lead Mines.
Mae oriau agor tymhorol gan y mwyngloddiau ac atyniadau eraill yn Wrecsam yn aml, ond os hoffech ymweld yn ystod tymor tawelach y gaeaf, gallwch ymgolli ym myd natur heb unrhyw beth i dynnu eich sylw.





Aros yn Llyndir Hall Hotel yn Wrecsam
Encil gwledig pum erw gan Hallmark Hotels, gyda'i bwll nofio a'i sba ei hun i ymlacio ynddyn nhw cyn diwrnod arall o weld golygfeydd yn Sir Wrecsam.
Neu, os hoffech aros yn rhywle mwy canolog (ger bariau a bwytai Wrecsam), mae The Lemon Tree, ac mae The Rare Welsh Bit wedi rhannu mwy am y ddau ar ei blog.

Diwrnod dau o daith Wrexham Wonder: Llwybr Dyffryn Ceiriog yn Wrecsam
Wrth edmygu'r lluniau ar eich camera dros frecwast Cymreig swmpus, lawrlwythwch ap Llwybr Dyffryn Ceiriog. Mae'n fap rhyngweithiol sy'n rhoi lluniau a gwybodaeth am y llwybr, er mwyn i chi ddewis pa safleoedd (os nad pob un) yr hoffech eu gweld.

Cyngor da os nad oes gennych lawer o amser yw mynd i Draphont Ddŵr Pontcysyllte, rhan o Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir rhwng Llantysilio a Gledrid yn Swydd Amwythig, sy'n sefyll 129 troedfedd o uchder!
Gallwch gerdded ar draws y Draphont am olygfeydd syfrdanol dros ddyffryn yr afon, neu fynd ar gwch cul, profiad cwbl unigryw ar Gamlas Llangollen!

Castell Holt ac Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd



Dim ond y cwrt mewnol sydd ar ôl o Gastell Holt, ond mae lluniau arlunwyr yn dangos caer ysblennydd gyda phum tŵr crwn, ffos a phont godi.
Cafodd Castell Holt ei adeiladu mewn safle strategol. Ar draws Afon Dyfrdwy mae Lloegr, ac roedd y castell yn atgyfnerthu rheolaeth y Brenin Edward I o Loegr dros Ogledd Cymru. Pont Farndon gerllaw yw'r 'Porth i Gymru', y lle perffaith am hunlun neu ‘lun clawr’ o'ch antur yn Wrecsam.

Mae sain unigryw Clychau Gresffordd yn ei gwneud yn un o saith rhyfeddod Cymru, yn ôl rhigwm gan awdur dienw. Wrth gyrraedd Eglwys yr Holl Saint yn ystod gwasanaeth priodas, roedd yn amlwg bod y clychau mewn llais da wrth iddyn nhw ganu bob hyn a hyn i gyhoeddi'r dathlu.
Eiddo'r National Trust: Erddig Hall | Pethau i'w gwneud yn Wrecsam
Mae Erddig Hall yn eiddo National Trust o'r 18fed ganrif ar gyrion tref Wrecsam. Mae digwyddiadau tymhorol drwy gydol y flwyddyn, ac mae'r hydref yn dod â'r cynhaeaf afalau blynyddol, pan fydd hyd at 180 o fathau'n cael eu casglu yn y gerddi.






Gallwch hefyd grwydro y tu mewn i Erddig Hall, cartref teuluol sydd wedi'i rewi mewn amser ers dod dan ofal y National Trust ym 1973. I orffen eich taith ar nodyn melys, ewch i fwyty Erddig am bot o de a thafell o fara brith.
Am ragor o wybodaeth am daith Wrexham Wonder, gan gynnwys syniadau a theithiau eraill yn Sir Wrecsam, ewch i adran Inspire Me ar wefan This Is Wrexham.
Mae 'This Is Wrexham Tourism Partnership' wedi llwyddo i gael cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 i 2020 ar gyfer Cymunedau Gwledig, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I ddarllen mwy am deithiau Ed, ewch i'w wefan Explore with Ed!




