Arddangosfa Oleuo Tair Wythnos ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte!
Disgwylir i oleuo strwythurau eiconig ar hyd coridor un filltir ar ddeg Safle Treftadaeth y Byd Dyffryn Dyfrdwy ger Llangollen [Gogledd Ddwyrain Cymru] ddenu miloedd o ymwelwyr i'r ardal y mis hwn.
Mae'r digwyddiad yn rhedeg o 7 i 27 Hydref ac yn nodi 10 mlynedd ers i Draphont Ddŵr Pontcysyllte syfrdanol Thomas Telford o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Masn Trefor gael Statws Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2009.

Mae hefyd yn cyd-daro â Chynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Treftadaeth y Byd y DU yn Llangollen, o'r enw ‘Making The Most Of World Heritage’, ar 7 ac 8 Hydref.
Mae pob safle yn unigryw ac yn adeilad rhestredig, yn heneb gofrestredig neu'r ddau, a bydd yn cael ei oleuo gan y cwmni goleuo arbenigol Enlightened o Fryste am ddwy awr bob nos o 7.30pm i 9.30pm.

Dyma'r safleoedd a fydd yn cael eu goleuo:
Traphont Ddŵr, y Waun (Gradd II, Heneb Gofrestredig)
Traphont, y Waun (Gradd II)
Wyneb Twnnel y Waun, Basn Camlas y Waun (Gradd II, Heneb Gofrestredig)
Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Trefor (Gradd I, Heneb Gofrestredig)
Castell Dinas Brân, Llangollen (Heneb Gofrestredig)
Rhaeadr y Bedol, Llangollen (Gradd II)
Mae'r trefnwyr yn credu y bydd yr arddangosfa, sy'n rhoi'r strwythur 126 troedfedd wrth galon y dathliadau, yn dod yn fyw ar ôl iddi dywyllu ac yn annog pobl leol ac ymwelwyr i grwydro'r chwe strwythur ar hyd y darn o Gamlas Llangollen rhwng Llangollen a'r Waun, o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Y bwriad yw ymestyn tymor twristiaeth 2019 er mwyn hybu economi leol yr ardal.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiect cyffrous hwn, sy'n ffordd ardderchog o ddathlu deng mlynedd ers i Draphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ddod yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth, a sut y gall syniadau arloesol fel hyn ein helpu i wneud y gorau o'n Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Aelod Arweiniol Gweithredol ac aelod o Fwrdd Statws Treftadaeth y Byd: “Rwy'n edrych ymlaen at weld y strwythurau wedi'u goleuo, sy'n dangos ymhellach bod Safle Treftadaeth y Byd yn goridor 11 milltir ac yn annog pobl i ymweld â mwy ohono. Mae'n wych y bydd yn digwydd dros dair wythnos, gan roi cyfle i fwy o bobl ymweld a'i weld.”

Dywedodd Adnan Saif, cyfarwyddwr rhanbarthol Glandŵr Cymru: “Mae Camlas Llangollen yn ddyfrffordd hardd ac yn lle hyfryd i ymweld ag ef drwy gydol y flwyddyn. Mae ymchwil yn dangos bod bod ger dŵr yn eich gwneud yn hapusach ac yn iachach, a bydd y digwyddiad goleuo hwn yn galluogi ymwelwyr i weld y gamlas mewn goleuni gwahanol wrth helpu i ddathlu deng mlynedd ers iddi ddod yn Safle Treftadaeth y Byd.”
Ni fyddai'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gyllid gan Croeso Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a chaniatâd gan dirfeddianwyr preifat a hefyd gan Network Rail, sydd wedi rhoi caniatâd i oleuo Traphont y Waun.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau arbennig Traphont Ddŵr Pontcysyllte ar ei thudalen Facebook neu drwy Twitter neu Instagram.




