Tom Walker yn Cyhoeddi Dau Gig Pop-Up am Ddim yn Wrecsam Ddydd Sul!
Mae Tom Walker, y seren siartiau Prydeinig a chanwr y gân boblogaidd Leave a Light On, wedi rhannu newyddion mawr heno: gig pop-up AM DDIM yng nghanol dinas Wrecsam ddydd Sul yma, 17 Mawrth!

Bydd Tom yn perfformio'r cyntaf o ddau gig acwstig ar Sgwâr y Frenhines am 11.00am ddydd Sul, ac yna'n treulio amser yn cyfarfod â ffans cyn ail berfformiad ar ôl cinio am 1.00pm.
Mae'r cyfan yn rhan o awydd Tom i roi sylw i rai o drefi a dinasoedd y DU, gyda'r nod o ddangos pam maen nhw mor arbennig.
Cafodd y canwr a'r cyfansoddwr Tom Walker ei eni yn Kilsyth, yr Alban, ym 1991, ond fe'i magwyd yn nhref Knutsford yn Swydd Gaer. Daeth ei foment fawr yn gynnar: ar ôl i'w dad fynd ag ef i weld AC/DC yn naw oed, dechreuodd ymgyrchu am gitâr, ac yn y pen draw meistrolodd amrywiaeth o offerynnau wrth ddysgu canu a chyfansoddi.
Cafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth folk-pop unigol Ed Sheeran tra oedd yn astudio yn y London College of Creative Media, ac ar ôl cyfnod o fysgio a churo ar ddrysau'r diwydiant cerddoriaeth, dechreuodd ryddhau cyfres o senglau drwy Relentless/Sony yn 2016, gan sefydlu ei gyfuniad o ddylanwadau gwerin, pop a soul a'i ddawn gyda baledi dwys, llawn emosiwn.
Ond ni chafodd lwyddiant masnachol nes i “Leave a Light On” ffrwydro ar draws Ewrop yn 2017 ac ennill statws platinwm iddo mewn sawl gwlad.
Y flwyddyn ganlynol, roedd “Just You and I” yn llwyddiant hyd yn oed yn fwy, ac erbyn i'r ddwy gân ymddangos ar albwm cyntaf Walker yn 2019, What a Time to Be Alive, roedd yn amlwg mai ef oedd y trwbadŵr mawr nesaf. Roedd ennill gwobr Best Breakthrough Act yng Ngwobrau Brit y flwyddyn honno yn cadarnhau hynny.
I ddysgu mwy am Tom a gwrando ar ei gerddoriaeth, ewch i'w wefan swyddogol: https://www.iamtomwalker.com/#





