

Mae Wrecsam yn lle gwych i gerdded. O fewn ychydig filltiroedd i ganol y ddinas mae parciau gwledig, llwybrau glan afon, dyffrynnoedd coediog a dwy ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn ne'r sir mae Dyffryn Ceiriog a Llwybr Clawdd Offa yn cynnig rhai o'r teithiau cerdded gorau ar y bryniau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae llawer o'r teithiau'n dechrau neu'n gorffen yn agos at un o'n haelodau, felly gallwch gael coffi cyn cychwyn neu ginio iawn pan fyddwch yn dod yn ôl.


Teithiau cerdded yn Wrecsam
O Draphont Ddŵr Pontcysyllte i lonydd tawel Dyffryn Ceiriog, dyma'r teithiau cerdded rydyn ni'n eu hargymell i ymwelwyr. Mae'r rhan fwyaf am ddim, mae llawer yn boblogaidd gyda cherddwyr cŵn, ac maen nhw i gyd yn agos at rywle da i fwyta.
Dyma ein hoff deithiau cerdded yn Wrecsam, o droeon hamddenol i ddiwrnodau llawn.
Ein hoff deithiau cerdded yn Wrecsam
Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen
Cerdded ar draws Traphont Ddŵr Pontcysyllte yw'r daith gerdded enwocaf yn Wrecsam. Mae llwybr y gamlas yn croesi Dyffryn Dyfrdwy 126 troedfedd uwchben yr afon, yng nghanol Safle Treftadaeth y Byd UNESCO 11 milltir o hyd. O Fasn Trefor gallwch ddilyn y gamlas tuag at Langollen, neu fynd y ffordd arall drwy ddau dwnnel i Ddyfrbont y Waun, lle gallwch sefyll ag un droed yng Nghymru a'r llall yn Lloegr. Darllenwch ein 10 peth i'w gwneud ar hyd Safle Treftadaeth y Byd (yn Saesneg).
Parc Gwledig Tŷ Mawr
Ychydig i lawr yr afon o'r draphont yng Nghefn Mawr, mae Tŷ Mawr yn barc gwledig 35 erw ar lan Afon Dyfrdwy, gyda thaith gylchol ar lan yr afon, anifeiliaid fferm gan gynnwys dau lama, a Thraphont Cefn yn codi uwch eich pen. Mae'r Daith Traphont a Dyfrbont yn cysylltu'r parc â Phontcysyllte.
Erddig
Dwy filltir i'r de o ganol y ddinas, mae Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn ystâd 1,200 erw o goetir, parcdir a llwybrau ar hyd Afon Clywedog. Mae'n boblogaidd gyda cherddwyr cŵn lleol, ac mae'r tŷ a'r ardd yn werth ymweliad cyn neu ar ôl eich taith.
Castell y Waun
Mae Castell y Waun yn gaer o'r 13eg ganrif yn y Mers, gyda gerddi arobryn a 480 erw o barcdir i'w harchwilio. Cyfunwch eich ymweliad â Dyfrbont y Waun a dechrau Dyffryn Ceiriog, sydd gerllaw.
Llwybr Clywedog
Mae Llwybr Clywedog yn dilyn Afon Clywedog am tua naw milltir, o Minera Lead Mines ym mhen y dyffryn i lawr i King's Mills, heibio Nant Mill ac ystâd Erddig. Mae'n daith dda i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngorffennol diwydiannol Wrecsam, a gallwch ei cherdded fesul darn.
Minera Lead Mines a’r Parc Gwledig
Ym mhen uchaf Dyffryn Clywedog, mae Minera Lead Mines yn barc gwledig 53 erw o laswelltir, coetir a hen weithfeydd mwyn, gyda maes parcio mawr a llwybr ar hyd yr hen reilffordd. Gall cerddwyr brwd barhau i fyny i Fynydd Mwynglawdd.
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Mae parc gwledig mwyaf Wrecsam yn ymestyn dros 400 erw rhwng Gwersyllt a Llai, gydag Afon Alun yn llifo drwy'r canol. Mae rhwydwaith o lwybrau hawdd, maes chwarae ar ochr Llai, a Caffi Cyfle am goffi a chinio. Darllenwch ein taith gerdded drwy Ddyfroedd Alun.
Parc Gwledig Dyffryn Moss
Tair milltir i'r gogledd o'r ddinas, mae Dyffryn Moss yn ddyffryn coediog ar hen dir glofaol rhwng Gwersyllt a Brynteg, gyda dau lyn bach, llwybr ar hyd hen reilffordd a dwy daith gylchol. Mae parcio am ddim ond does dim toiledau na chaffi, felly mae'n addas ar gyfer tro byrrach. Cyfunwch y daith ag ymweliad â Stori Brymbo gerllaw.
Dyffryn Ceiriog
Yn ne-orllewin y sir, mae Dyffryn Ceiriog yn ymestyn o'r Waun i fyny i Lanarmon Dyffryn Ceiriog. Mae Taith Dyffryn Ceiriog yn cysylltu'r pentrefi a gallwch ei cherdded fesul darn, tra bod Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Ceiriog Uchaf yn rhoi golygfeydd gwych dros odre'r Berwyn i gerddwyr profiadol. Gorffennwch yn The Hand at Llanarmon am fwyd, diod neu noson o aros. Darllenwch ein canllaw i gerdded yn Nyffryn Ceiriog.
Cynlluniwch eich gwyliau cerdded
Gwnewch benwythnos ohoni gyda'n canllawiau i lefydd i aros, lefydd i fwyta ac yfed a phethau i'w gwneud yn Wrecsam. Mae'n well gennych gael rhywun i ddangos y ffordd? Mae ein haelodau'n cynnal teithiau cerdded tywys o amgylch y ddinas.



_JPG.jpg)



44.jpg)

47.jpg)